Parking, parking, parking… / Parcio, parcio, parcio…

 

Parking in Grangetown has been an issue on the lips of a lot of residents ever since we first started talking to the community about Greener Grangetown.

Once the Greener Grangetown project is complete, the current plan is for resident parking schemes to cover 50% of on-street parking across all 12 streets covered by the project.

Many residents have expressed a desire for resident parking to cover 75% or even 100% of on-street parking in the area.  If the majority of residents, supported by their local ward councillors express a desire for 75% residents parking where they currently have 50%, then this is something that the Council will implement.

To help residents decide if this is the right decision for their community, we’ve put together some key points explaining how the schemes work and some of the factors that the council have to consider when introducing or making changes to resident parking schemes.

  • Residents who want to park in resident bays, will need to purchase a parking permit.
  • Current charges for permits are £7.50 for a first permit and £30 for a second permit. Visitor permits cost £30 (or £7.50 if no resident permit is needed).
  • A permit lasts for 12 months.
  • Resident parking schemes assist residents to park reasonably close to their homes but they do not guarantee space outside a residence.
  • Permits will only normally be issued for the street you live on.
  • High car ownership, particularly in areas of terraced housing can result in there not being enough space to park – even with a resident parking scheme.
  • Resident parking bays are solely for use by residents and their visitors with valid parking permits. They usually operate every day between set hours, normally 8am-10pm.
  • The needs of residents have to be balanced with the need to keep local businesses and facilities accessible to customers, both those who live nearby and those who travel from further afield.
  • Not everybody will want to buy a permit or be eligible to buy one. Parking space needs to be provided for them.

If a resident parking scheme is already in place on your street, you can apply for a permit here:  https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/Parking-permits/Apply-for-a-new-permit/Pages/default.aspx

If you want to find out more about parking in Cardiff visit:  https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/parking/Pages/default.aspx

 

Mae parcio yn Grangetown wedi bod yn broblem i breswylwyr ers i ni ddechrau siarad â’r gymuned am Grangetown Werddach.

Ar ôl i’r project Grangetown Werddach gael ei gwblhau, bwriedir mai mannau parcio i breswylwyr fydd 50% o’r mannau parcio ym mhob un o’r 12 stryd sy’n rhan o’r project.

Mae llawer o breswylwyr wedi dweud eu bod eisiau i 75% neu hyd yn oed 100% o’r mannau parcio ar y stryd yn yr ardal fod ar gyfer preswylwyr yn unig.  Os bydd y rhan fwyaf o drigolion, gyda chefnogaeth eu cynghorwyr ward lleol, yn dweud eu bod eisiau i 75% o’r mannau parcio fod i breswylwyr, mae hyn yn rhywbeth y bydd y Cyngor yn ei weithredu.

I helpu pobl i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer eu cymuned, rydym wedi creu nifer o brif bwyntiau sy’n esbonio sut mae’r cynlluniau’n gweithio a rhai o’r ffactorau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu hystyried wrth gyflwyno neu newid cynlluniau parcio i breswylwyr.

  • Mae angen i breswylwyr sydd am barcio yn y mannau parcio i breswylwyr brynu trwydded barcio.
  • Y costau presennol ar gyfer trwyddedau yw £7.50 am y drwydded gyntaf a £30 am yr ail drwydded. £30 yw trwyddedau i ymwelwyr (neu £7.50 os nad oes angen trwydded i breswylwyr).
  • Mae trwydded yn ddilys am 12 mis.
  • Mae cynlluniau parcio i breswylwyr yn helpu preswylwyr i barcio’n rhesymol agos at eu cartrefi ond nid ydynt yn sicrhau man y tu allan i’w cartrefi.
  • Fel arfer cyflwynir trwyddedau ar gyfer y stryd rydych yn byw ynddi yn unig.
  • Gall fod diffyg lle i bawb barcio gan fod preswylwyr yn berchen ar lawer o geir, yn enwedig mewn ardaloedd gyda thai teras – hyd yn oed gyda chynllun parcio i breswylwyr.
  • Ar gyfer preswylwyr a’u hymwelwyr sy’n dangos trwydded ddilys y mae’r mannau parcio i breswylwyr. Fel arfer maent yn gweithredu bob dydd rhwng oriau penodedig, fel arfer 8am-10pm.
  • Mae’n rhaid cydbwyso angen y preswylwyr â’r angen i gadw busnesau lleol a chyfleusterau yn hygyrch i gwsmeriaid, y rhai sy’n byw’n agos a’r rhai sy’n teithio o ymhellach.
  • Ni fydd pawb eisiau prynu trwydded neu fod yn gymwys i brynu un. Mae angen darparu mannau parcio ar eu cyfer.

Os oes cynllun parcio i breswylwyr eisoes ar waith yn eich stryd, gallwch wneud cais am drwydded yma:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Trwyddedau-parcio/Gwneud-cais-am-drwydded/Pages/default.aspx

Os hoffech wybod mwy am barcio yng Nghaerdydd ewch i:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/parcio/Pages/default.aspx