Frequently Asked Questions / Cwestiynau Cyffredin

  • What is Greener Grangetown?  The City of Cardiff Council, Dwr Cymru Welsh Water and Natural Resources Wales (supported by the Landfill Communities Fund) are investing £2 million in Greener Grangetown, an innovative scheme to better manage rainwater in your community. Using the latest techniques, this scheme will catch, clean and divert rainwater directly into the River Taff instead of pumping it over 8 miles through the Vale of Glamorgan to the sea. It will help to make Grangetown a greener, cleaner place to live.

 

  • What’s in it for me?  This project will help to make your street and community a greener, cleaner place to live, with less commuter parking and safer walking and cycling.

 

  • When will the work start/end?  The work will start in the week commencing Monday 21st November 2016 and will be completed in late 2017. Initial work will focus on the banks of the River Taff with work on individual streets beginning in early 2017.

 

  • Will you be digging up my road? Will I be able to access my property?  There will be excavation for new drains and features which will inevitably be noisy and dusty. All work will be carried out on a planned street by street basis and will normally take place from 8am – 5.30pm, Monday to Friday to minimise disruption. There will however be points when road closures and traffic lights are in place and vehicle access is restricted. This is necessary to ensure work can be carried out safely. Access will be kept open to properties at all times.

 

  • Will you require access to my property?  No. All works will be within the public footway & highway.

 

  • What about impacts to parking? Will I lose my parking space?  All streets where there is currently no designated residents parking will move to a 50% residents only parking scheme. A permit will be required to park in these areas. The impact of the scheme will be monitored and there is the option to review the level of residents parking if necessary. Streets where 50% residents parking is in place will remain at this level, but as with the other streets, this will be monitored to see if an increase is justified at a later date. Information on parking permits is available here: https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/Parking-permits/Pages/Parking%20permits.aspx

 

  • How will parking be affected during construction?  There will be fewer spaces for a temporary period when works are taking place in your street. We shall be working with the Contractor to prioritise parking, for local residents during this period.

 

  • What will it look like?  The final designs take into account all the feedback we have received during the final public consultation process, the actual position of services and the legal requirements for highway design. They are available here: https://greenergrangetown.wordpress.com/designs/ Please note that these are technical construction plans and do not give an ‘artists impression’ of the final street scene.

 

  • Am I at risk of flooding? Will this work protect me from flooding?  This project is not linked to flooding, although localised ponding should be reduced.

 

  • Will I get a reduction in my water and sewerage charges?  As a result of this work, you won’t be eligible for a reduction in your water and sewerage charges. However, if you would like more information on our surface water rebate for properties who can evidence that they have no surface water entering the public sewer network you can find more information here: http://dwrcymru.com/en/My-Account/About-My-Bill/Surface-Water-Drainage.aspx

 

  • What if I don’t want this outside my house?  We have done all we can to accommodate the wishes of residents during the consultation and design process, but there are a small number of areas where engineering constraints mean this is not possible if the drainage is to function properly.

 

  • Where does the water go at the moment? Why is it pumped that far?  Most of the water is piped and pumped several miles, before treatment and transfer to the sea. It used to enter Cardiff Bay along with untreated sewage, before the barrage was completed. The outfalls were then blocked up and the resulting sewage pumped away.

 

  • Will my business still be able to receive deliveries?  Yes. Please liaise with the Contractor, who shall ensure that your business receives all planned deliveries.

 

  • Will my water go off?  There should be no need for your water to go off. If we do need to temporarily turn off your supply for any reason, we will let you know at least 48 hours in advance.

 

  • Will the roots of trees affect my property?   Any new trees planted will have root barriers, to ensure that all existing properties are protected. We shall also look at the maintenance of existing street existing trees.

 

  • How close will the tree be to my property and will I be at risk of falling branches during extreme weather?  Any new trees planted will not pose a threat to any properties.

 

  • Will a tree block light from my property?  We will endeavour to ensure that this does not happen.

 

  • Who will be responsible for the maintenance and upkeep of the planters? After the 18 month landscaping contractor’s maintenance period is over, the City of Cardiff Council will be wholly responsible for the maintenance, but it is our intention to work closely with local community groups who might be interested in taking some responsibility for some of the planters/rain gardens. Low maintenance plants and tree-species will be used and as part of the £2million invested, there is budget for maintenance for the immediate future.

 

  • What types of trees will you use? Plants and trees are crucial to the effectiveness of the project, to ensure improved water quality and a positive contribution to the local area. The views of residents will be taken into account when finalising the plants and trees used. However, we intend to use species that are indigenous to the area, and those that support native pollinators (e.g. butterflies, bees etc).

 

  • What will you be doing on Taff Embankment?  The road will remain a two way street, but parking from Llanbradach Street south will be stopped on the riverbank side. 50% residents parking shall be introduced on the housing side. The footpath along the river shall be widened, lifted to remove trip hazards and re-surfaced. The existing trees shall be protected. The road will have 2m wide lanes with a granite block strip up the centre. This will effectively slow traffic, making the road safer both for pedestrians crossing, cyclists and local drivers. It should discourage the road being used as a ‘rat run’. The result should be less commuter parking, less through traffic and a significantly enhanced streetscape.

 

 

  • Beth yw Grangetown Werddach?  Mae Cyngor Dinas Caerdydd, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, ar y cyd â’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi, yn buddsoddi £2 filiwn yn Grangetown Werddach, sef cynllun arloesol a fydd yn rheoli dŵr glaw’n well yn eich cymuned. Gan ddefnyddio’r technegau diweddaraf, bydd y cynllun yn casglu, glanhau ac yn gwyro dŵr glaw yn uniongyrchol i’r Afon Taf yn lle ei bwmpio dros 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr. Bydd yn helpu i wneud Grangetown yn lle mwy gwyrdd a glân i fyw ynddo.

 

  • Pa fudd sydd i mi?  Bydd y project hwn yn helpu i wneud eich stryd a’ch cymuned yn wyrddach, glanach lle i fyw ynddo, gyda llai o barcio gan deithwyr a cherdded a beicio mwy diogel.

 

  • Pa bryd fydd y gwaith yn dechrau/gorffen?  Bydd y gwaith yn dechrau yn yr wythnos fydd yn dechrau ar Ddydd Llun 21 Tachwedd 2016 a bydd yn gorffen ddiwedd 2017. Bydd y gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar dorlannau’r afon Taf gyda gwaith ar strydoedd unigol yn dechrau yn gynnar yn 2017.

 

  • Fyddwch chi’n cloddio yn fy stryd i? A fyddaf yn gallu mynd i mewn i fy eiddo?  Bydd cloddio’n digwydd ar gyfer gosod draeniau a nodweddion eraill ac mae’n anorfod y bydd hyn yn swnllyd a llychlyd. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl y cynllun fesul stryd ar y tro ac fel rheol bydd y gwaith yn mynd rhagddo rhwng 8am—5.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Fodd bynnag fe fydd yna adegau pan fydd cau ffyrdd a goleuadau traffig ar waith a’r mynediad gan gerbydau wedi ei gyfyngu. Mae hyn yn angenrheidiol fel bod modd cwblhau’r gwaith yn ddiogel. Bydd modd mynd a dod o’ch eiddo drwy’r adeg.

 

  • A fyddwch angen mynediad i’m heiddo?  Na fydd. Bydd yr holl waith o fewn y briffordd a’r llwybr troed cyhoeddus.

 

  • Beth am yr effaith ar barcio? A fyddaf yn colli fy man parcio?  Bydd pob stryd lle nad oes unrhyw gyfyngiadau parcio ar hyn o bryd yn symud draw at gynllun parcio 50% i breswylwyr yn unig. Bydd gofyn cael trwydded i barcio yn y mannau hyn. Caiff effaith y cynllun ei monitro ac mae opsiwn i adolygu lefel y parcio i breswylwyr yn ôl yr angen. Bydd strydoedd lle mae yna eisoes barcio preswylwyr 50% yn aros ar y lefel hon, ond fel gyda’r strydoedd eraill, caiff hyn ei fonitro i weld os oes cyfiawnhad dros ei gynyddu yn y dyfodol. Mae gwybodaeth ynghylch trwyddedau parcio ar gael yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Cynllunio/Ymholiadau-cyn-gwneud-cais/Pages/default.aspx

 

  • Beth fydd yr effaith ar barcio yn ystod y cyfnod gwaith?  Bydd llai o lefydd parcio am gyfnod dros dro wrth i’r gwaith fynd rhagddo yn eich stryd chi. Byddwn yn gweithio gyda’r Contractwr i flaenoriaethu parcio ar gyfer preswylwyr lleol yn ystod y cyfnod hwn.

 

  • Sut olwg fydd arno?  Bydd y dyluniadau terfynol yn rhoi ystyriaeth i’r holl adborth y byddwn wedi ei dderbyn yn ystod y broses ymgynghori gyhoeddus derfynol, union safle’r gwasanaethau a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer dylunio priffyrdd. Mae’r rheiny ar gael fan hyn: https://greenergrangetown.wordpress.com/designs/ Sylwch mai cynlluniau adeiladu technegol yw’r rhain ac nad ydynt yn rhoi ‘argraff artist’ ar y strydlun terfynol.

 

  • Oes perygl llifogydd i mi? A fydd y gwaith hwn yn fy amddiffyn i rhag llifogydd?  Does dim cyswllt rhwng y cynllun hwn a llifogydd, er y dylai fod llai o ddŵr yn cronni’n lleol.

 

  • A fyddaf yn derbyn gostyngiad yn fy nhaliadau dŵr a charthffosiaeth?  O ganlyniad i’r gwaith hwn, fyddwch chi ddim yn gymwys i dderbyn gostyngiad yn eich taliadau dŵr a charthffosiaeth. Fodd bynnag os carech dderbyn mwy o wybodaeth ynghylch ein had-daliad dŵr wyneb ar gyfer eiddo sy’n gallu profi nad oes dŵr wyneb yn rhedeg i’r rhwydwaith draeniau cyhoeddus mae mwy o wybodaeth ar gael i chi yma: http://dwrcymru.com/cy-GB/My-Account/About-My-Bill/Surface-Water-Drainage.aspx

 

  • Beth os nad ydw i’n dymuno hyn y tu allan i’m tŷ?  Rydym wedi gwneud y cwbl y gallwn ni i roi ystyriaeth i ddymuniadau preswylwyr yn ystod y broses ddylunio ac ymgynghori, ond mae yna rai meysydd bychain lle mae cyfyngiadau peirianegol yn golygu na fydd hyn yn bosib os yw’r draenio i weithio’n gywir.

 

  • I le mae’r dŵr yn mynd ar hyn o bryd? Pam ei fod yn cael ei bwmpio mor bell?  Mae’r rhan fwyaf o’r dŵr yn cael ei bwmpio mewn pibau dros sawl milltir, cyn ei drin a’i drosglwyddo i’r môr. Arferai fynd i Fae Caerdydd ynghyd â charthffosiaeth heb ei drin, cyn cwblhau’r morglawdd. Cafodd y pibau hynny wedyn eu cau a’r garthffosiaeth ei phwmpio ymaith.

 

  • A fydd modd i fy musnes dderbyn nwyddau?  Bydd Cysylltwch â’r Contractwr, a fydd yn sicrhau y bydd eich busnes yn derbyn y nwyddau y cynlluniwyd i’w derbyn.

 

  • A gaiff fy nŵr ei ddiffodd?  Ni ddylai fod angen diffodd eich cyflenwad dŵr. Os bydd gofyn diffodd y cyflenwad dros dro am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi 48 awr o rybudd i chi.

 

  • A fydd gwreiddiau coed yn effeithio ar fy eiddo?  Caiff unrhyw goed newydd eu plannu ag atalfeydd gwreiddiau, er mwyn sicrhau y caiff pob eiddo presennol ei amddiffyn. Byddwn hefyd yn edrych ar gynnal a chadw coed sy’n bodoli eisoes ar y strydoedd.

 

  • Pa mor agos fydd coeden i fy eiddo ac a fydd perygl i mi o ran canghennau yn syrthio mewn tywydd stormus?  Fydd dim perygl i eiddo yn sgil plannu unrhyw goed newydd.

 

  • A fydd coeden yn atal golau rhag cyrraedd fy nhŷ?  Byddwn yn ymdrechu i sicrhau na fydd hyn yn digwydd.

 

  • Pwy fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r blychau plannu?   Ar ddiwedd cyfnod cynnal a chadw’r dirwedd gan y Contractwr, Cyngor Dinas Caerdydd fydd yn llwyr gyfrifol am y cynnal a chadw, ond ein bwriad yw cydweithio’n agos â grwpiau cymunedol lleol all fod â diddordeb mewn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros rai o’r gerddi glaw/blychau plannu. Caiff planhigion a rhywogaethau coed isel hawdd eu cynnal eu defnyddio fel rhan o’r £2 filiwn gaiff ei buddsoddi, ac mae cyllideb ar gael ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol agos.

 

  • Pa fath o goed fyddwch yn eu defnyddio?  Mae planhigion a choed yn allweddol i effeithlonrwydd y project, i sicrhau dŵr o ansawdd gwell a chyfraniad mwy cadarnhaol i’r ardal leol. Caiff barn preswylwyr ei hystyried wrth gadarnhau y planhigion a’r coed i’w defnyddio. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu defnyddio rhywogaethau brodorol i’r ardal, a’r rheiny sy’n cynnal peillwyr naturiol (e.e. ieir bach yr haf, gwenyn ayb)

 

  • Beth fyddwch chi’n ei wneud ar Taff Embankment?  Bydd y ffordd yn parhau yn stryd ddwyffordd, ond ni fydd modd parcio ar ochr yr afon i’r de o Llanbradach Street. Bydd parcio 50% i breswylwyr yn cael ei gyflwyno ar ochr y tai. Bydd y llwybr troed ar hyd yr afon yn cael ei ledu a’i godi i gael gwared ar beryglon baglu ac ail-osod yr wyneb. Caiff y coed sydd yno eisoes eu diogelu. Bydd lonydd 2m o led i’r ffordd gyda stribyn bloc gwenithfaen ar hyd y canol. Effaith hyn fydd arafu’r traffig, gan wneud y ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr yn croesi, beicwyr a gyrwyr lleol. Fe ddylai atal y ffordd rhag cael ei ddefnyddio fel ‘llwybr llygod’. Y canlyniad gobeithio fydd llai o barcio gan gymudwyr, llai o draffig yn pasio drwodd a strydlun amgenach.