Rain Gardens are at the heart of our plans to create a cleaner, greener Grangetown but what exactly are they? What do they do? And why do we need them?
We get a lot of rain in Wales. Up in the natural landscape of places like the Brecon Beacons, much of that water tends to gradually soak away into the ground, but in an urban environment like Grangetown there are lots of roads, roofs and patios – surfaces that don’t absorb water.
The rain has to go somewhere so it drains onto the street before running into storm drains where it enters the sewer system and mixes with waste water from our kitchens and bathrooms.
Rain gardens are planted areas that mimic the natural environment and provide a sustainable method for catching and cleaning rain water.
When it rains, the water flows into the rain garden and fills it with water. The soil and vegetation in the rain garden act as filters, cleaning the rainwater then separating out and breaking down any road pollutants mixed with it.
Gradually this water soaks into the soil or is absorbed by the root systems of the hardy plants and shrubs planted in the rain garden.
Any clean water that cannot be absorbed by the soil and vegetation travels through a pipe at the base of the rain garden and in the case of Greener Grangetown, into the nearby River Taff.
Mae Gerddi Glaw wrth wraidd ein cynlluniau i greu Grangetown werddach, glanach ond beth yn union ydyn nhw? Beth maen nhw’n ei wneud? A pham bod eu hangen arnom?
Rydym yn cael llawer o law yma yng Nghymru. I fyny yn y tirweddau naturiol mewn lleoliadau fel Bannau Brycheiniog, mae llawer o’r dŵr hwnnw’n dueddol o ymdreiddio i’r ddaear fesul tipyn, ond mewn amgylchedd trefol fel Grangetown mae llawer o ffyrdd, toeau a phatios – arwynebau nad ydynt yn amsugno dŵr.
Mae’n rhaid i’r glaw fynd i rywle ac felly mae’n draenio ar y stryd cyn llifo i ddraeniau storm lle mae’n mynd i mewn i’r system garthffosiaeth ac yn cymysgu gyda dŵr gwastraff o’n ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
Mae gerddi glaw yn ardaloedd â phlanhigion ynddyn nhw sy’n dynwared yr amgylchedd naturiol ac yn sicrhau dull cynaliadwy o ddal a glanhau dŵr glaw.
Pan fydd i’n glawio, bydd y dŵr yn llifo i’r ardd law a’i llenwi â dŵr. Mae’r pridd a llystyfiant yn yr ardd law yn gweithredu fel hidlyddion, yn glanhau’r dŵr glaw ac yn gwahanu ac yn malurio unrhyw lygryddion ffordd sydd wedi’u cymysgu ag e.
Fesul tipyn bydd y dŵr yn ymdreiddio i’r pridd neu’n cael ei amsugno gan wreiddiau’r planhigion a llwyni gwydn a blannwyd yn yr ardd law.
Bydd unrhyw ddŵr glân na ellir ei amsugno gan y pridd a llystyfiant yn teithio drwy bibell o dan yr ardd law, ac yn achos Grangetown Werddach, i mewn i’r Afon Taf gerllaw.