Greener Grangetown project completion marked by Welsh Environment Minister / Gweinidog Amgylchedd Cymru yn nodi cwblhau project Grangetown Werddach

GG Group inc Minister

The completion of the award winning Greener Grangetown project was marked by Welsh Government Minister for Environment, Hannah Blythyn today.

Greener Grangetown is an innovative £2 million partnership project between Cardiff Council, Dŵr Cymru Welsh Water and Natural Resources Wales, supported by the Landfill Communities Fund.

The project uses the latest sustainable drainage (SuDS) techniques to catch, clean and divert rainwater directly into the River Taff instead of collecting and pumping it eight miles to a treatment works in the Vale of Glamorgan and then discharging it out to sea.  This is the first time that these techniques have been retrofitted into an urban environment at this scale.

Cabinet Member for Clean Streets, Recycling and Environment, Councillor Michael Michael said:  “The way the SuDS technology at the heart of Greener Grangetown mimics natural drainage and allows rainwater to be released directly into the river means we can simultaneously improve the management of rainwater in the area and also realise massive energy savings – that alone is pretty impressive, but it’s the way the project has delivered additional benefits for the community that marks it out as special.”

“It’s been a long road to get here, and thanks must go to residents for their patience, but I think most people can see that Greener Grangetown has transformed this part of Cardiff and made it a cleaner, greener place to live.”

The scheme has resulted in:

  • 42,480m² of surface water being removed from the combined waste water network (the equivalent of 10 football pitches).
  • An additional 1,600m² of green space (the equivalent of 4 basketball courts).
  • The creation of Wales’ first ever ‘bicycle street’ along one of the busiest sections of the Taff Trail Active Travel route, slowing traffic by design and improving conditions for pedestrians and cyclists.
  • Increased biodiversity – 135 new trees and thousands of shrubs and grasses planted.
  • Creation of a community orchard.
  • 26 new cycle stands.
  • 12 new litter bins.
  • 9 new seats and benches.
  • Increased resident-only parking spaces.

Minister for Environment Hannah Blythyn AM said: “The Greener Grangetown scheme brings multiple benefits to the local community – from the new rain gardens and kerbside planters, which will improve biodiversity in the area,  to the dedicated ‘bicycle street’ that provides a safer route for cyclists and pedestrians and improving air quality.

“What’s great about this scheme is how it has involved the Grangetown community at every stage, with input into the original proposals, right through to the final designs.”

“Greener Grangetown is an example of what is possible in a retrofit sustainable drainage system. I hope this scheme will be a catalyst for others across Wales, both in terms of sustainable drainage and partnership working.”

Dŵr Cymru’s Managing Director of Wastewater Services, Steve Wilson, said: “We are delighted to have been part of this exciting and innovative project in the heart of the capital city. We are already delivering a number of sustainable drainage projects ourselves to tackle urban flooding so it made perfect sense for us to join with Cardiff Council and Natural Resources Wales on this project.

“The Greener Grangetown project will help improve the way our network operates during heavy rain which in turn will bring clear environmental benefits for decades to come.”

Senior Policy Advisor for Natural Resources Wales, Martyn Evans, said: “Our aim from the very beginning was to ensure that Greener Grangetown could help to create a healthy and resilient local environment that supported economic and social prosperity for generations to come. We can now see how the scheme is helping to enhance local biodiversity and wildlife, deliver water quality improvements in the River Taff and open up new opportunities for people to enjoy walking, cycling and other recreation close to where they live and work. It’s a brilliant example of how organisations and the public can work together to create so many positive outcomes, and we hope this innovative scheme can inspire many more exciting projects across Wales.”

 

Nodwyd cwblhau project arobryn Grangetown Werddach heddiw gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

Mae Grangetown Werddach yn broject partneriaeth £2 miliwn rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi’i gefnogi gan y Gronfa Cymunedau Tirlenwi.

Mae’r project yn defnyddio’r technegau draenio diweddaraf (SuDS) i ddal, glanhau ac arallgyfeirio dŵr glaw i’r Afon Taf yn lle ei gasglu a’i bwmpio wyth milltir i waith trin dŵr ym Mro Morgannwg ac wedyn ei ryddhau allan i’r môr.  Dyma’r tro cyntaf i’r technegau hyn gael eu hôl-ffitio i amgylchedd trefol ar y raddfa hon.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:  “Mae’r modd y mae technoleg SuDS sydd wrth galon Grangetown Werddach yn dynwared draeniad naturiol a chaniatáu i ddŵr glaw gael ei ryddhau yn uniongyrchol i’r afon yn golygu y gallwn ar yr un pryd wella rheolaeth ar ddŵr glaw yn yr ardal a hefyd wireddu arbedion ynni enfawr – mae hynny ynddo’i hun yn eithaf trawiadol, ond y modd y mae’r project hefyd wedi rhoi buddion i’r gymdeithas sy’n ei wneud yn broject cwbl arbennig.”

“Mae’r daith yma wedi bod yn un faith, ac mae angen diolch i’r preswylwyr am eu hamynedd, ond rwy’n credu y gall y rhan fwyaf o bobl weld fod Grangetown Werddach wedi trawsnewid y rhan hon o Gaerdydd a’i gwneud yn lle glanach, gwyrddach i fyw.

Mae’r cynllun wedi arwain at:

  • 42,480m2 o ddŵr wyneb yn cael ei dynnu o’r rhwydwaith dŵr gwastraff cyfun (sydd gyfystyr â 10 cae pêl-droed).
  • Mae 1,600m2 o ofod gwyrdd (sy’n cyfateb i 4 cwrt pêl-fasged).
  • Creu ‘stryd feiciau’ gyntaf Cymru ar hyd un o rannau prysuraf llwybr Teithio Llesol Taith Taf, gan arafu traffig trwy ddylunio a gwella amodau i gerddwyr a beicwyr.
  • Cynnydd mewn bioamrywiaeth – 135 o goed newydd a miloedd o lwyni a gweiriau.
  • Creu perllan gymunedol.
  • 26 o stondinau beics newydd.
  • 12 bin sbwriel newydd.
  • 9 sedd a mainc newydd.
  • Mwy o fannau parcio i breswylwyr yn unig.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn AC: Mae cynllun Grangetown Werddach yn dod â buddion lluosog i’r gymuned leol – o’r gerddi glaw newydd i’r blychau planhigion ar ymyl y ffordd, a fydd yn gwella bioamrywiaeth yn yr ardal, i’r ‘stryd feicio’ neilltuedig sy’n rhoi llwybr mwy diogel i feicwyr a cherddwyr a gwella ansawdd yr aer.

“Yr hyn sy’n wych am y cynllun yw’r modd y mae wedi cynnwys Cymuned Grangetown ar bob cam, gyda chyfraniadau i’r cynigion gwreiddiol, yr holl ffordd i’r dyluniadau terfynol.”

“Mae Grangetown Werddach yn enghraifft o’r hyn sydd yn bosib mewn system ddraenio ôl-ffitio gynaliadwy. Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn gatalydd i eraill ar draws Cymru, o ran draenio cynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi bod yn rhan o’r project cyffrous ac arloesol hwn yng nghanol y brifddinas. Rydym eisoes yn cyflenwi nifer o brojectau draenio cynaliadwy ein hunain er mwyn mynd i’r afael a llifogydd trefol felly roedd yn gwneud synnwyr perffaith i ni ymuno â Chyngor Caerdydd a Chyfoeth Naturiol Cymru ar y project hwn.

“Bydd project Grangetown Werddach yn helpu i wella’r modd y mae ein rhwydwaith yn gweithredu yn ystod glaw trwm a fydd yn ei dro yn dod â manteision amgylcheddol amlwg am ddegawdau i ddod.”

Meddai Martyn Evans, Uwch Ymgynghorydd Polisi Cyfoeth Naturiol Cymru: “Ein nod o’r dechrau’n deg oedd sicrhau y gallai Grangetown Werddach helpu i greu amgylchedd lleol iachus a dygn a fyddai’n cefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol am genedlaethau i ddod. Gallwn nawr weld sut mae’r cynllun yn helpu i wella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn lleol, gwella ansawdd dŵr ar hyd yr Afon Taf ac agor cyfleoedd newydd i bobl fwynhau cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden eraill yn agos i le maen nhw’n byw a gweithio. Mae’n enghraifft ardderchog o sut y mae sefydliadau a’r cyhoedd yn gallu gweithio ar y cyd i greu cymaint o ganlyniadau cadarnhaol, a gobeithiwn y bydd y cynllun arloesol hwn yn gallu ysbrydoli llawer mwy o brojectau cyffrous ledled Cymru.

Project Update / Diweddariad Project

We hope you’re enjoying seeing the final results of all the work that we’ve been doing in Grangetown over the last 18 months.

We just wanted to give you a quick update on some of the finishing touches to the scheme now that ERH Construction are off-site and the overwhelming majority of work has been completed.

Gobeithiwn eich bod yn mwynhau gweld ffrwyth yr holl waith rydym wedi’i gyflawni yn Grangetown yn ystod y 18 mis diwethaf.

Roeddem am roi’r diweddaraf i chi ynghylch y mân waith sy’n weddill gan fod ERH Construction wedi gadael y safle bellach a chan fod mwyafrif helaeth y gwaith wedi cael ei gyflawni.

gg

How to apply for a parking permit

Lines and signs for your new resident only parking scheme are now in place and permit applications can be made online at:  www.cardiff.gov.uk/parking

Cardiff Council will make contact directly to confirm full details of the scheme, which is being introduced to help reduce the impact of commuter parking on the community.

Double yellow lines will be painted along the riverbank side of Taff Embankment well after permit invites are received, to allow time for permit applications to be made.

Parking enforcement will be in operation to manage the scheme.

Sut i wneud cais am drwydded parcio

Mae’r llinellau a’r arwyddion newydd ar gyfer eich cynllun parcio i drigolion yn unig bellach yn eu lle a gallwch gyflwyno eich cais ar-lein yn:  www.caerdydd.gov.uk/parcio

Bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi yn uniongyrchol ynghylch manylion y cynllun, sy’n cael ei gyflwyno i leihau’r effaith y mae parcio gan gymudwyr yn ei chael ar y gymuned.

Bydd llinellau melyn dwbl yn cael eu paentio ar hyd ochr glannau afon y Taff Embankment ymhell ar ôl eich gwahodd i wneud cais am drwydded, er mwyn rhoi digon o amser i chi gyflwyno eich cais.

Bydd gorfodi parcio ar waith i reoli’r cynllun.

 

One last finishing touch to Wales’ first bicycle street

Improving facilities for people cycling along Taff Embankment is a big part of our work to help make Grangetown greener and there is still one finishing touch needed – the central ‘rumble strip’.

Specialist contractors are being used to complete this work which will start during the first two weeks of July and will take up to 2 weeks to complete.  Your continued patience and co-operation during the installation of this unique feature is appreciated.

Gosod y manylyn olaf un ar stryd feiciau gyntaf Cymru

Mae gwella cyfleusterau i bobl sy’n beicio ar hyd y Taff Embankment yn rhan fawr o’n gwaith i helpu i wneud Grangetown yn wyrddach ac mae un manylyn arall ar ôl – y ‘stribed ddwndwr’ canolog.

Mae adeiladwyr arbenigol yn cael eu defnyddio i gwblhau’r gwaith hwn a fydd yn dechrau yn ystod pythefnos cyntaf mis Gorffennaf ac yn dod i ben hyd at bythefnos wedi hynny.  Gwerthfawrogir eich amynedd parhaus a’ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod o osod y nodwedd unigryw hon.

 

Help keep Grangetown green!

The plants in your new rain gardens are hardy types – they need to be to do their job properly – but there are a number of things you can do to help keep Grangetown green:

Helpwch i gadw Grangetown yn wyrdd!

Mae’r planhigion yn ein gerddi glaw newydd yn rhai gwydn iawn – ac mae angen iddynt fod i wneud eu gwaith yn iawn, ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i gadw Grangetown yn wyrdd:

GG June flowers filter

  • Do give the plants water if they look like they’re struggling in the heat – we’re watering them regularly but the first few seasons will be the toughest for the plants and they can’t have too much water!
  • If you decide to plant your own plants in the rain gardens, that’s okay – BUT remember, we have specially selected plants that can survive periods of flooding and drought. Anything you plant must be able to do the same.
  • Don’t add compost to the rain gardens – it stops them from filtering and draining water properly.
  • Don’t throw cigarette butts in the rain gardens – use the stubbers on the new bins.
  • Try to wash your cars in the lanes and not the streets; the rain gardens drain to the river.

We’d love the community to get involved in caring for some of the planters on a longer-term basis and we’ll be in touch soon to let you know how you can help.

  • Rhowch ddŵr i’r planhigion os yw’n ymddangos eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd yn y gwres. Rydym yn eu dyfrio yn gyson, ond y tymhorau cyntaf fydd yr anoddaf i’r planhigion ac mae’n amhosibl rhoi gormod o ddŵr iddynt!
  • Os penderfynwch blannu eich planhigion eich hunain yn y gerddi glaw, mae hynny’n iawn, OND cofiwch ein bod wedi dewis y planhigion hyn yn ofalus am eu bod yn gallu goroesi cyfnodau o lifogydd a sychder. Rhaid i unrhyw beth rydych yn ei blannu allu wneud yr un peth.
  • Peidiwch ag ychwanegu compost at y gerddi glaw – mae’n eu hatal rhag hidlo a draenio’r dŵr yn gywir.
  • Peidiwch â thaflu stympiau sigaréts i’r gerddi glaw – defnyddiwch y stybwyr ar y biniau newydd.
  • Ceisiwch olchi eich ceir yn y lonydd ac nid ar y strydoedd; mae dŵr y gerddi glaw yn mynd i’r afon.

Byddwn wrth ein boddau yn gweld y gymuned yn cymryd rhan ac yn gofalu am y planwyr yn yr hirdymor, a byddwn yn cysylltu â chi’n fuan i roi gwybod i chi sut allwch helpu.

 

 

Project Update / Diweddariad Project

May 18

Work on the Greener Grangetown project is now approaching completion and we would like to thank you all for your patience and co-operation during the work.

We expect ERH Construction to be off site in June.

On completion, all streets in the Greener Grangetown area will be covered by a 50% resident only parking scheme.

Cardiff Council will contact residents directly to confirm details of the new permit scheme, which is being introduced to help reduce the impact of commuter parking on the community.

Double yellow lines will also be painted along the riverbank side of Taff Embankment and parking enforcement will be in operation.

 

Mae gwaith ar y project Grangetown Werddach ar fin cael ei gwblhau a hoffem ddiolch i chi am eich holl amynedd a chydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym yn disgwyl ERH Construction i adael y safle ym mis Mehefin.

Wedi cwblhau, bydd 50% o’r mannau parcio mewn strydoedd yn ardal Grangetown Werddach yn rhai i breswylwyr yn unig.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â phreswylwyr yn uniongyrchol i gadarnhau manylion y cynllun trwyddedau newydd, sy’n cael ei gyflwyno i helpu i leihau effaith cymudwyr yn parcio ar y gymuned.

Bydd llinellau melyn dwbl hefyd yn cael eu paentio ar hyd ochr glan-yr-afon Taf Embankment a bydd gorfodi parcio ar waith.

The ten numbers that are making Grangetown greener… / Y deg ystadegyn sydd bellach yn gwneud Grangetown yn werddach…

gg14051809

42,480 m2 – the number of square metres of surface water removed from the combined waste water network (the equivalent of ten football pitches.

1,600 m2 – the number of square metres of additional green space (the equivalent of 4 basketball courts)

495 m2 – the number of square metres of new paving (the equivalent of 2.5 tennis courts)

135 trees – the number of new trees planted.

45 shrubs & grasses – the number of different species of shrubs and grasses planted

26 cycle stands – the number of new cycle stands installed.

19 trees – the number of different species of tree planted

12 litter bins – the number of new litter bins installed.

9 seats & benches – the number of new seats and benches installed

8 miles – the number of miles water had to be pumped before Greener Grangetown

 

42,480 m2 – nifer y metrau sgwâr o ddŵr arwyneb sydd wedi’i waredu o’r rhwydwaith dŵr gwastraff ar y cyd (cyfateb i ddeg cae pêl-droed.)

1,600 m2 – nifer y metrau sgwâr o fannau gwyrdd ychwanegol (cyfateb i 4 cwrt pêl-fasged)

495 m2 – nifer y metrau sgwâr o balmentydd newydd (cyfateb i 2.5 cwrt tennis)

135 – nifer y coed newydd wedi’u plannu.

45 – nifer y gwahanol rywogaethau o lwyni a glaswellt wedi’u plannu

26 – nifer y stondinau beiciau newydd wedi’u gosod.

19 – nifer y gwahanol rywogaethau o goed wedi’u plannu

12 –  nifer y biniau sbwriel newydd wedi’u gosod.

9 – nifer y seddi a meinciau newydd wedi’u gosod.

8 – nifer y milltir yroedd oedd angen i ddŵr gael ei bwmpio cyn Grangetown Werddach

Thank you to our community volunteers! / Diolch i’n holl blannwyr cymunedol!

IMG_3550

A huge thank you to all the community volunteers who braved the rain to come and help plant out some of the rain gardens at our Community Volunteering Events.

Local schoolchildren from Grangetown Primary School and Ysgol Hamadryad have also been getting involved, planting some of the biggest rain gardens in the scheme!

Thank you for all your hard work and we hope you enjoy watching the fruits of your labour slowly turn Grangetown greener!

Diolch i’r holl wirfoddolwyr cymunedol ddaeth allan yn y glaw i’n helpu i blannu planhigion yn y gerddi glaw yn rhan o’n Digwyddiadau Gwirfoddoli Cymunedol.

Mae plant o ysgol Gynradd Grangetown ac Ysgol Hamadryad hefyd wedi bod yn  cymryd rhan gan blannu rhai o’r gerddi glaw mwyaf yn y cynllun!

Diolch i chi i gyd am eich holl waith called a gobeithio y byddwch yn mwynhau gwylio eich gwaith yn troi Grangetown yn werddach yn araf!

Help make your community a cleaner, greener place to live! / Helpwch i wneud eich cymuned yn lle glanach, gwyrddach i fyw ynddo!

Would you like to help make your street a cleaner, greener place to live?

If so, then why not get involved by joining one of our Community Planting Events?

Over the coming weeks we will be planting thousands of shrubs and plants as part of our work to improve the management of rainwater in Grangetown – and we’d love your help!

Community Planting Events are being held on Saturday 10th and Saturday 17th February between 9am and 1pm, meeting at the ERH Communications Site Office on Taff Embankment.

The events will be suitable for all ages and all equipment will be provided – all you need to bring is enthusiasm and a willingness to get your hands dirty.

Hope to see you there!

 

Hoffech chi helpu i wneud eich stryd yn lle glanach, gwyrddach i fyw ynddo?

Os felly, beth am gymryd rhan yn un o’n Digwyddiadau Plannu Cymunedol?

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn plannu miloedd o wrychoedd a phlanhigion fel rhan o’n gwaith i wella’r broses o reoli dŵr glaw yn Grangetown – byddai’n wych cael help llaw!

Cynhelir Digwyddiadau Plannu Cymunedol ddydd Sadwrn 10 a dydd Sadwrn 17 Chwefror rhwng 9am ac 1pm. Byddwn yn cwrdd yn Swyddfa Safle Cyfathrebu ERH yn Taff Embankment.

Mae’r digwyddiadau’n addas i bawb o bob oedran, a bydd offer ar gael ar y dydd – y cyfan sydd ei angen arnoch yw bach o frwdfrydedd, a chofiwch fod yn barod i ddwyno’ch dwylo!

Gobeithiwn eich gweld chi yno!

Project Update: Where are we now? / Diweddariad Project: Ble ydym ni erbyn hyn?

Thank you all for your patience and co-operation during the ongoing Greener Grangetown construction work.

Since our last update in August, we’ve made good progress and are on track to complete the project by spring 2018.

By Christmas, construction work will be largely complete in Ferndale St, Coedcae St,

Blaenclydach St, Clydach St. (not surfacing), Bargoed St, Aber St & Abercynon St.

Several rain gardens on Taff Embankment, the junctions with Corporation Rd, new signage and road linings will also have been installed, along with some additional lighting. Some trees will also be planted.

 

What’s next?

Resurfacing work on Clydach Street will begin in the New Year, along with work starting in Cymmer St, Ystrad St & Taff Terrace.

Planting of trees and shrubs will also continue in the New Year – hopefully with the involvement of local residents.

 

As well as forming part of the rain gardens, the trees and shrubs aim to bring a cohesive identity to the Greener Grangetown area.

The layout, species, shapes and colours of the planting will give each street an individual look.  In total, 127 trees will be planted – a total of 19 different species.

All the trees that will be planted share certain characteristics.  They are:

  • Generally deciduous so that natural light is maximised during the winter.
  • ‘Street trees’ that can tolerate urban environments.
  • Trees that provide interest all year round either due to leaf colour, bark or flowers.
  • All trees are UK sourced.
  • Trees with root control zones.
  • Trees with a 2.5 metre clear stem to deter vandalism.
  • Trees with a high biodiversity value.

 

What if I need to talk about the project?

If it’s about a problem on site, please contact Ken Evans on 07972 126806.

You can also get in touch via:

twitter:  @greenergrange

e-mail:   greenergrangetown@cardiff.gov.uk

Or, pop in to Grangetown Hub from 1-2pm on Wednesday, or 6 – 7pm on the first Wednesday of the month, for one of our drop-in sessions.

 

Diweddariad Project:  Ble ydym ni erbyn hyn?

Diolch i chi am eich amynedd a’ch cydweithrediad yn ystod gwaith adeiladu Grangetown Werddach. Ers ein diweddariad diwethaf ym mis Awst, mae cynnydd da wedi ei wneud ac rydym ar y trywydd iawn i gwblhau’r gwaith erbyn gwanwyn 2018.

Erbyn y Nadolig, bydd y gwaith adeiladu fwy neu lai wedi ei gwblhau ar Ferndale St, Coedcae St, Blaenclydach St, Clydach St (nid oes arwyneb newydd yn cael ei osod eto), Bargoed St, Aber St ac Abercynon St.

Bydd sawl gardd law ar Lannau’r Taf, y cyffyrdd â Corporation Road, arwyddion a llinellau ffyrdd newydd, ynghyd â rhai goleuadau ychwanegol. Bydd rhai coed wedi eu plannu.

 

Beth nesaf?

Bydd gwaith ailosod arwyneb ffordd Clydach Street yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd, a bydd gwaith yn dechrau ar Cymer St, Ystrad St a Taff Terrace.

Bydd plannu coed a llwyni hefyd yn parhau yn y Flwyddyn Newydd – gyda chyfraniad y preswylwyr lleol gobeithio.

 

Yn ogystal â ffurfio rhan o’r gerddi glaw, nod y coed a’r llwyni yw dod â hunaniaeth gydlynol i ardal Grangetown Werddach.

Bydd gosodiad, rhywogaeth, siapiau a lliwiau’r plannu yn rhoi golwg unigol i bob stryd.  Bydd cyfanswm o 127 o goed yn cael eu plannu – cyfanswm o 19 o wahanol rywogaethau.

Mae’r holl goed a gaiff eu plannu yn rhannu rhai nodweddion penodol:

  • Yn gyffredinol byddant yn gollddail gan wneud y gorau o’r goleuni yn y gaeaf.
  • ‘Coed Stryd’ a all oddef amgylcheddau trefol.
  • Coed sy’n cynnig elfen o ddiddordeb drwy gydol y flwyddyn oherwydd lliw’r dail, y rhisgl neu’r blodau.
  • Daw’r holl goed o’r DU.
  • Coed â pharthau rheoli gwreiddiau.
  • Coed â bonyn 2.5 metr clir i atal fandaliaeth.
  • Coed â gwerth bioamrywiaeth uchel.

 

Beth os oes angen trafod y project arnaf?

Os mai problem am y safle sydd gennych, cysylltwch â Ken Evans ar 07972 126806.

Gallwch hefyd gysylltu drwy gyfrwng ein:-

Twitter:     @greenergrange

E-bost:    grangetownwerddach@caerdydd.gov.uk

Neu, galwch draw i Hyb Grangetown o 1 – 2pm ar ddydd Mercher, neu 6 – 7pm ar ddydd Mercher cyntaf y mis, ar gyfer un o’n sesiynau galw heibio.

 

Natural Resources Wales / Cyfoeth Naturiol Cymru

I’m Martyn Evans, the Greener Grangetown project lead at Natural Resources Wales.

In my previous blog last June I wrote about delivering a scheme that enhances the local environment and its natural resources and reflects the needs of the local community.

So what do I mean by “natural resources”…

Our natural resources are at the heart of everything we do. They include the air we breathe, the water we drink, and the plants and soil that provide our most basic needs, including food, energy and security. They help us to reduce flooding, improve air quality and supply materials for construction. They provide a home for a variety of wildlife, and give us iconic landscapes to enjoy, which boosts our economy through tourism. They help keep us healthy too.

Unfortunately our natural resources are coming under increasing pressure – from climate change, a growing population and the need for energy production. At the same time Wales faces many other challenges: securing low-carbon energy and fuel supply, creating jobs and income, tackling poverty and inequality, flooding and drought, and improving people’s health.

But how does this all fit with the Greener Grangetown scheme, you might ask!

Well, we believe this exciting scheme shows a different approach to managing our natural resources – one that looks at the whole picture rather than focusing on single solutions or individual parts of our environment.

You will have noticed, for example, that our contractor has started to install the first set of rain gardens and kerbside planting areas. Once up and running these areas will not only help to improve local drainage, but will also enhance local biodiversity and wildlife. They will deliver important improvements to water quality in the River Taff too. The scheme will also establish 135 new trees and 1,600m2 of additional green space. These will provide new homes for wildlife and open up new opportunities for people to enjoy walking, cycling and other recreation close to where they live and work. There is overwhelming research that being closer to green space also improves people’s physical and mental well-being. At the same time, more greenery and tree planting will also mean noise and pollutants should be better absorbed, and air will be cleaner too.

I believe that the Greener Grangetown scheme will improve how we manage our natural resources. However, we want to create a legacy that creates a healthy and resilient local environment, and supports economic and social prosperity for generations to come. We hope this will enable us all to tackle local challenges a lot better.

You can read more about our work to manage natural resources at https://naturalresources.wales/about-us/how-we-work/how-we-work-natural-resources-management/?lang=en

Alternatively, I’d love to hear from you on Twitter @MartynEvansNRW

 

Martyn Evans ydw i, arweinydd project Grangetown Werddach, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn fy mlog diweddaraf fis Mehefin, ysgrifennais am ddarparu cynllun sy’n gwella’r amgylchedd lleol a’i gyfoeth naturiol ac sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned leol.

Felly, beth mae “cyfoeth naturiol” yn ei olygu…

Mae ein cyfoeth naturiol wrth galon popeth yr ydyn ni’n ei wneud. Mae’n cynnwys yr aer yr ydyn ni’n ei hanadlu, y dŵr yr ydyn ni’n ei yfed a’r planhigion a’r pridd sy’n darparu ein anghenion sylfaenol, gan gynnwys bwyd, ynni a diogelwch. Mae’n ein helpu i leihau llifogydd, gwella ansawdd yr aer ac yn cyflenwi deunydd er mwyn adeiladu. Mae’n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn rhoi tirweddau eiconig i ni eu mwynhau, sy’n gwella’r economi drwy dwristiaeth. Mae’n ein helpu ni i gadw’n iach hefyd.

Yn anffodus, mae ein cyfoeth naturiol dan bwysau cynyddol yn wyneb newid yn yr hinsawdd, poblogaeth sy’n tyfu a’r angen i gynhyrchu ynni. Ar yr un pryd, mae Cymru’n wynebu sawl her arall: sicrhau cyflenwad ynni a thanwydd carbon-isel, creu swyddi ac incwm, trechu tlodi ac anghydraddoldeb, llifogydd a sychder a gwella iechyd pobl.

Ond, beth sydd gan hyn i wneud â’r cynllun Grangetown Werddach?

Wel, ‘dyn ni’n credu bod y cynllun cyffrous hwn yn cyfleu dull arall o reoli ein cyfoeth naturiol – un sy’n edrych ar y darlun llawn yn hytrach na chanolbwyntio ar ddatrysiadau sengl neu agweddau unigol ar yr amgylchedd.

Efallai y byddwch chi wedi sylwi, er enghraifft, bod ein contractwr wedi dechrau gosod y gyfres gyntaf o erddi glaw ac ardaloedd plannu wrth ymyl y ffordd. Pan fyddant ar waith, bydd yr ardaloedd hyn nid yn unig yn gwella cyfleusterau draenio lleol, ond byddant hefyd yn gwella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt lleol. Byddant yn cyflawni gwelliannau pwysig i ansawdd dŵr yr Afon Taf hefyd. Bydd y cynllun hwn hefyd yn sicrhau 135 o goed newydd a 1,600m2 o ofod gwyrdd ychwanegol. Bydd y rhain yn cynnig cartrefi newydd i fywyd gwyllt ac yn creu cyfleoedd i bobl sy’n mwynhau cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden eraill yn agos at eu cartref a’u gweithle. Mae llawer o waith ymchwil sy’n dangos fod bod yn agosach at ofod gwyrdd hefyd yn gwella llesiant corfforol a meddyliol pobl. Ar yr un pryd, bydd mwy o blanhigion a choed yn golygu y bydd sŵn a llygryddion yn cael eu hamsugno’n well a bydd yr aer yn lanach hefyd.

Rwy’n credu y bydd y cynllun Grangetown Werddach yn gwella’r ffordd yr ydyn ni’n rheoli ein cyfoeth naturiol. Fodd bynnag, rydym eisiau ysgogi etifeddiaeth sy’n creu amgylchedd leol iach a gwydn, ac sy’n cefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol am genedlaethau i ddod. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â heriau lleol yn well.

Gallwch ddarllen mwy am y gwaith yr ydyn ni’n ei wneud i reoli cyfoeth naturiol

https://naturalresources.wales/about-us/how-we-work/how-we-work-natural-resources-management/?lang=en

Fel arall, hoffwn glywed gennych chi ar Twitter @MartynEvansNRW

What is a rain garden? / Beth ydy gardd law?

Rain Gardens are at the heart of our plans to create a cleaner, greener Grangetown but what exactly are they?  What do they do?  And why do we need them?

We get a lot of rain in Wales.  Up in the natural landscape of places like the Brecon Beacons, much of that water tends to gradually soak away into the ground, but in an urban environment like Grangetown there are lots of roads, roofs and patios – surfaces that don’t absorb water.

The rain has to go somewhere so it drains onto the street before running into storm drains where it enters the sewer system and mixes with waste water from our kitchens and bathrooms.

Rain gardens are planted areas that mimic the natural environment and provide a sustainable method for catching and cleaning rain water.

When it rains, the water flows into the rain garden and fills it with water.  The soil and vegetation in the rain garden act as filters, cleaning the rainwater then separating out and breaking down any road pollutants mixed with it.

Gradually this water soaks into the soil or is absorbed by the root systems of the hardy plants and shrubs planted in the rain garden.

Any clean water that cannot be absorbed by the soil and vegetation travels through a pipe at the base of the rain garden and in the case of Greener Grangetown, into the nearby River Taff.

 

Mae Gerddi Glaw wrth wraidd ein cynlluniau i greu Grangetown werddach, glanach ond beth yn union ydyn nhw?  Beth maen nhw’n ei wneud?  A pham bod eu hangen arnom?

Rydym yn cael llawer o law yma yng Nghymru.  I fyny yn y tirweddau naturiol mewn lleoliadau fel Bannau Brycheiniog, mae llawer o’r dŵr hwnnw’n dueddol o ymdreiddio i’r ddaear fesul tipyn, ond mewn amgylchedd trefol fel Grangetown mae llawer o ffyrdd, toeau a phatios – arwynebau nad ydynt yn amsugno dŵr.

Mae’n rhaid i’r glaw fynd i rywle ac felly mae’n draenio ar y stryd cyn llifo i ddraeniau storm lle mae’n mynd i mewn i’r system garthffosiaeth ac yn cymysgu gyda dŵr gwastraff o’n ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

Mae gerddi glaw yn ardaloedd â phlanhigion ynddyn nhw sy’n dynwared yr amgylchedd naturiol ac yn sicrhau dull cynaliadwy o ddal a glanhau dŵr glaw.

Pan fydd i’n glawio, bydd y dŵr yn llifo i’r ardd law a’i llenwi â dŵr.  Mae’r pridd a llystyfiant yn yr ardd law yn gweithredu fel hidlyddion, yn glanhau’r dŵr glaw ac yn gwahanu ac yn malurio unrhyw lygryddion ffordd sydd wedi’u cymysgu ag e.

Fesul tipyn bydd y dŵr yn ymdreiddio i’r pridd neu’n cael ei amsugno gan wreiddiau’r planhigion a llwyni gwydn a blannwyd yn yr ardd law.

Bydd unrhyw ddŵr glân na ellir ei amsugno gan y pridd a llystyfiant yn teithio drwy bibell o dan yr ardd law, ac yn achos Grangetown Werddach, i mewn i’r Afon Taf gerllaw.

Parking, parking, parking… / Parcio, parcio, parcio…

 

Parking in Grangetown has been an issue on the lips of a lot of residents ever since we first started talking to the community about Greener Grangetown.

Once the Greener Grangetown project is complete, the current plan is for resident parking schemes to cover 50% of on-street parking across all 12 streets covered by the project.

Many residents have expressed a desire for resident parking to cover 75% or even 100% of on-street parking in the area.  If the majority of residents, supported by their local ward councillors express a desire for 75% residents parking where they currently have 50%, then this is something that the Council will implement.

To help residents decide if this is the right decision for their community, we’ve put together some key points explaining how the schemes work and some of the factors that the council have to consider when introducing or making changes to resident parking schemes.

  • Residents who want to park in resident bays, will need to purchase a parking permit.
  • Current charges for permits are £7.50 for a first permit and £30 for a second permit. Visitor permits cost £30 (or £7.50 if no resident permit is needed).
  • A permit lasts for 12 months.
  • Resident parking schemes assist residents to park reasonably close to their homes but they do not guarantee space outside a residence.
  • Permits will only normally be issued for the street you live on.
  • High car ownership, particularly in areas of terraced housing can result in there not being enough space to park – even with a resident parking scheme.
  • Resident parking bays are solely for use by residents and their visitors with valid parking permits. They usually operate every day between set hours, normally 8am-10pm.
  • The needs of residents have to be balanced with the need to keep local businesses and facilities accessible to customers, both those who live nearby and those who travel from further afield.
  • Not everybody will want to buy a permit or be eligible to buy one. Parking space needs to be provided for them.

If a resident parking scheme is already in place on your street, you can apply for a permit here:  https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/Parking-permits/Apply-for-a-new-permit/Pages/default.aspx

If you want to find out more about parking in Cardiff visit:  https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/parking/Pages/default.aspx

 

Mae parcio yn Grangetown wedi bod yn broblem i breswylwyr ers i ni ddechrau siarad â’r gymuned am Grangetown Werddach.

Ar ôl i’r project Grangetown Werddach gael ei gwblhau, bwriedir mai mannau parcio i breswylwyr fydd 50% o’r mannau parcio ym mhob un o’r 12 stryd sy’n rhan o’r project.

Mae llawer o breswylwyr wedi dweud eu bod eisiau i 75% neu hyd yn oed 100% o’r mannau parcio ar y stryd yn yr ardal fod ar gyfer preswylwyr yn unig.  Os bydd y rhan fwyaf o drigolion, gyda chefnogaeth eu cynghorwyr ward lleol, yn dweud eu bod eisiau i 75% o’r mannau parcio fod i breswylwyr, mae hyn yn rhywbeth y bydd y Cyngor yn ei weithredu.

I helpu pobl i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer eu cymuned, rydym wedi creu nifer o brif bwyntiau sy’n esbonio sut mae’r cynlluniau’n gweithio a rhai o’r ffactorau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu hystyried wrth gyflwyno neu newid cynlluniau parcio i breswylwyr.

  • Mae angen i breswylwyr sydd am barcio yn y mannau parcio i breswylwyr brynu trwydded barcio.
  • Y costau presennol ar gyfer trwyddedau yw £7.50 am y drwydded gyntaf a £30 am yr ail drwydded. £30 yw trwyddedau i ymwelwyr (neu £7.50 os nad oes angen trwydded i breswylwyr).
  • Mae trwydded yn ddilys am 12 mis.
  • Mae cynlluniau parcio i breswylwyr yn helpu preswylwyr i barcio’n rhesymol agos at eu cartrefi ond nid ydynt yn sicrhau man y tu allan i’w cartrefi.
  • Fel arfer cyflwynir trwyddedau ar gyfer y stryd rydych yn byw ynddi yn unig.
  • Gall fod diffyg lle i bawb barcio gan fod preswylwyr yn berchen ar lawer o geir, yn enwedig mewn ardaloedd gyda thai teras – hyd yn oed gyda chynllun parcio i breswylwyr.
  • Ar gyfer preswylwyr a’u hymwelwyr sy’n dangos trwydded ddilys y mae’r mannau parcio i breswylwyr. Fel arfer maent yn gweithredu bob dydd rhwng oriau penodedig, fel arfer 8am-10pm.
  • Mae’n rhaid cydbwyso angen y preswylwyr â’r angen i gadw busnesau lleol a chyfleusterau yn hygyrch i gwsmeriaid, y rhai sy’n byw’n agos a’r rhai sy’n teithio o ymhellach.
  • Ni fydd pawb eisiau prynu trwydded neu fod yn gymwys i brynu un. Mae angen darparu mannau parcio ar eu cyfer.

Os oes cynllun parcio i breswylwyr eisoes ar waith yn eich stryd, gallwch wneud cais am drwydded yma:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Trwyddedau-parcio/Gwneud-cais-am-drwydded/Pages/default.aspx

Os hoffech wybod mwy am barcio yng Nghaerdydd ewch i:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/parcio/Pages/default.aspx