Natural Resources Wales / Cyfoeth Naturiol Cymru

I’m Martyn Evans, the Greener Grangetown project lead at Natural Resources Wales.

In my previous blog last June I wrote about delivering a scheme that enhances the local environment and its natural resources and reflects the needs of the local community.

So what do I mean by “natural resources”…

Our natural resources are at the heart of everything we do. They include the air we breathe, the water we drink, and the plants and soil that provide our most basic needs, including food, energy and security. They help us to reduce flooding, improve air quality and supply materials for construction. They provide a home for a variety of wildlife, and give us iconic landscapes to enjoy, which boosts our economy through tourism. They help keep us healthy too.

Unfortunately our natural resources are coming under increasing pressure – from climate change, a growing population and the need for energy production. At the same time Wales faces many other challenges: securing low-carbon energy and fuel supply, creating jobs and income, tackling poverty and inequality, flooding and drought, and improving people’s health.

But how does this all fit with the Greener Grangetown scheme, you might ask!

Well, we believe this exciting scheme shows a different approach to managing our natural resources – one that looks at the whole picture rather than focusing on single solutions or individual parts of our environment.

You will have noticed, for example, that our contractor has started to install the first set of rain gardens and kerbside planting areas. Once up and running these areas will not only help to improve local drainage, but will also enhance local biodiversity and wildlife. They will deliver important improvements to water quality in the River Taff too. The scheme will also establish 135 new trees and 1,600m2 of additional green space. These will provide new homes for wildlife and open up new opportunities for people to enjoy walking, cycling and other recreation close to where they live and work. There is overwhelming research that being closer to green space also improves people’s physical and mental well-being. At the same time, more greenery and tree planting will also mean noise and pollutants should be better absorbed, and air will be cleaner too.

I believe that the Greener Grangetown scheme will improve how we manage our natural resources. However, we want to create a legacy that creates a healthy and resilient local environment, and supports economic and social prosperity for generations to come. We hope this will enable us all to tackle local challenges a lot better.

You can read more about our work to manage natural resources at https://naturalresources.wales/about-us/how-we-work/how-we-work-natural-resources-management/?lang=en

Alternatively, I’d love to hear from you on Twitter @MartynEvansNRW

 

Martyn Evans ydw i, arweinydd project Grangetown Werddach, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn fy mlog diweddaraf fis Mehefin, ysgrifennais am ddarparu cynllun sy’n gwella’r amgylchedd lleol a’i gyfoeth naturiol ac sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned leol.

Felly, beth mae “cyfoeth naturiol” yn ei olygu…

Mae ein cyfoeth naturiol wrth galon popeth yr ydyn ni’n ei wneud. Mae’n cynnwys yr aer yr ydyn ni’n ei hanadlu, y dŵr yr ydyn ni’n ei yfed a’r planhigion a’r pridd sy’n darparu ein anghenion sylfaenol, gan gynnwys bwyd, ynni a diogelwch. Mae’n ein helpu i leihau llifogydd, gwella ansawdd yr aer ac yn cyflenwi deunydd er mwyn adeiladu. Mae’n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn rhoi tirweddau eiconig i ni eu mwynhau, sy’n gwella’r economi drwy dwristiaeth. Mae’n ein helpu ni i gadw’n iach hefyd.

Yn anffodus, mae ein cyfoeth naturiol dan bwysau cynyddol yn wyneb newid yn yr hinsawdd, poblogaeth sy’n tyfu a’r angen i gynhyrchu ynni. Ar yr un pryd, mae Cymru’n wynebu sawl her arall: sicrhau cyflenwad ynni a thanwydd carbon-isel, creu swyddi ac incwm, trechu tlodi ac anghydraddoldeb, llifogydd a sychder a gwella iechyd pobl.

Ond, beth sydd gan hyn i wneud â’r cynllun Grangetown Werddach?

Wel, ‘dyn ni’n credu bod y cynllun cyffrous hwn yn cyfleu dull arall o reoli ein cyfoeth naturiol – un sy’n edrych ar y darlun llawn yn hytrach na chanolbwyntio ar ddatrysiadau sengl neu agweddau unigol ar yr amgylchedd.

Efallai y byddwch chi wedi sylwi, er enghraifft, bod ein contractwr wedi dechrau gosod y gyfres gyntaf o erddi glaw ac ardaloedd plannu wrth ymyl y ffordd. Pan fyddant ar waith, bydd yr ardaloedd hyn nid yn unig yn gwella cyfleusterau draenio lleol, ond byddant hefyd yn gwella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt lleol. Byddant yn cyflawni gwelliannau pwysig i ansawdd dŵr yr Afon Taf hefyd. Bydd y cynllun hwn hefyd yn sicrhau 135 o goed newydd a 1,600m2 o ofod gwyrdd ychwanegol. Bydd y rhain yn cynnig cartrefi newydd i fywyd gwyllt ac yn creu cyfleoedd i bobl sy’n mwynhau cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden eraill yn agos at eu cartref a’u gweithle. Mae llawer o waith ymchwil sy’n dangos fod bod yn agosach at ofod gwyrdd hefyd yn gwella llesiant corfforol a meddyliol pobl. Ar yr un pryd, bydd mwy o blanhigion a choed yn golygu y bydd sŵn a llygryddion yn cael eu hamsugno’n well a bydd yr aer yn lanach hefyd.

Rwy’n credu y bydd y cynllun Grangetown Werddach yn gwella’r ffordd yr ydyn ni’n rheoli ein cyfoeth naturiol. Fodd bynnag, rydym eisiau ysgogi etifeddiaeth sy’n creu amgylchedd leol iach a gwydn, ac sy’n cefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol am genedlaethau i ddod. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â heriau lleol yn well.

Gallwch ddarllen mwy am y gwaith yr ydyn ni’n ei wneud i reoli cyfoeth naturiol

https://naturalresources.wales/about-us/how-we-work/how-we-work-natural-resources-management/?lang=en

Fel arall, hoffwn glywed gennych chi ar Twitter @MartynEvansNRW